Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 30 Mehefin 2015 a dydd Mercher 1 Gorffennaf 2015
Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2015 a dydd Mercher 8 Gorffennaf 2015
Dydd Mawrth 14 Gorffennaf 2015 a dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015
Dydd Mawrth 30 Mehefin 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020 - y wybodaeth ddiweddaraf (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – flwyddyn ers ei chyflwyno (30 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
o Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015 (10 munud)
o Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 (5 munud)
· Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 (15 munud)
· Dadl ar Adroddiad Gweinidogion Cymru ar gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (60 munud)
Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 7 Gorffennaf
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Band Eang Cyflym Iawn (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Diweddaraf ar Borthladdoedd (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blwyddyn Antur 2016 (30 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
o Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) (5 munud)
o Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) (5 munud)
o Rheoliadau Addysg Uwch (Dynodi Darparwyr Addysg Uwch) (Cymru) (5 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
o Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015 (10 munud)
o Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015 (5 munud)
· Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (60 munud)
· Dadl ar benderfyniad ariannol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (5 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl Fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Hofrennydd heddlu Dyfed-Powys: pam mae'r X99 yn darparu cefnogaeth hanfodol i ddiogelwch y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru (30 munud) gohiriwyd o 24 Mehefin
Dydd Mercher 8 Gorffennaf
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl fer - Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 14 Gorffennaf 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Cyflwyno'r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (60 munud)
· Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2015-2016 (30 munud)
· Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 (45 munud)
· Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (60 munud)
Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
Busnes y Cynulliad
§ Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60 munud) - aildrefnwyd o 8 Gorffennaf
§ Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
§ Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
§ Dadl Fer - Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)